Neidio at y cynnwys

S4C


Moreb

[ VIDEO ]

Ty Sioraidd mewn steil Tuduriadd.

Cafodd Moreb ei adeiladu ar gyfer asiant ystâd Gelli Aur, oedd yn eiddo i’r Arglwydd Cawdor. Yr hyn sy’n ddiddorol yw ble mae e – reit ar ochr tiroedd Gelli Aur ac i fyny yn erbyn waliau ystâd Dinefwr.

Y pensaer oedd JP Pritchett o Gaerefrog, ac mae’n bosib ei fod e wedi cael y swydd gan fod ei dad e yn gaplan i ystâd y Cawdor.

Mae’n debyg bod y tŷ gwreiddiol yn wynebu i lawr dyffryn Tywi. Mae’r bont newydd yn uwch o lawer na’r bont wreiddiol gan eu bod nhw eisiau lleihau’r llethr i fyny i’r dref. Felly mi roedd hynny’n cuddio’r olygfa o’r dyffryn, ac felly fe gafodd y tŷ ei droi rownd i wynebu’r bont.

Tu fewn i’r ty mae’r grisiau o ansawdd da ond yn rhyfeddol o gul. Mae nhw mwy fel grisiau gweision a morynion na phrif risiau. Eto falle bod hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod y tŷ wedi cael ei ailfodelu.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales