Er bod pawb yn meddwl am Blas Dinefwr a Chastell Dinefwr fel tasen nhw o fewn i dref Llandeilo, yn y cyfnod canoloesol roedden nhw’n rhan o’r dref drws nesaf, yn rhan o Ddinefwr, sydd wedi diflannu’n llwyr.
Mae’r parcdir yn llawn o hanes cudd – mae yna fryngaer o oes yr haearn, dwy gaer Rufeinig, dwy drefgordd ganoloesol – ond fawr iawn y gallwch chi ei weld.
Yr hyn y gallwch chi ei weld yw’r ffordd droellog o Landeilo, a thirlun wedi’i gynllunio sy’n manteisio ar ffurfiau garw naturiol dyffryn Tywi. Fe wnaeth y cynllunydd enwog Capability Brown hyd yn oed ychwanegu ambell gyffyrddiad bach fel y clystyrau o goed. Ac wrth gwrs mae gwartheg gwynion enwog parc Dinefwr yn ychwanegu at yr olygfa fugeiliol.
Cafodd y castell ei addasu fel adfail rhamantus tua 1660 pan gafodd Tŷ Newton ei ail-adeiladu gan Edward Rice ( ffurf Seisnigedig o’r enw hynafol Rhys).
O’r olwg gyntaf fe ymddengys Plas Dinefwr fel adeilad o steil ‘Barwnol’ o oes Fictoria ond beth sydd yma yw croen o waith carreg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cuddio maenor o’r ail ganrif ar bymtheg. Gellir galw’r arddull ar y muriau allanol yn ‘Venetian Gothic’. Ond mae yna beintiadau tu fewn i’r plas o 1660 pan gafodd y ty ei adeiladu sy’n dangos sut roedd y ty yn edrych yn ei dirlun gwreiddiol.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn adfer y tŷ yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma, ac mae e’n edrych yn ffantastig nawr.
Mae’r tŷ wedi cael ei addasu sawl gwaith ers iddo gael ei adeiladu, ond ei nodwedd orau yw’r nenfydau rhyfeddol o’r ail ganrif ar bymtheg sydd ar y llawr gwaelod.
Mae’r grisiau yn wreiddiol ac yn perthyn i chwedegau’r ail ganrif ar bymtheg, ond yn oes Fictoria roedden nhw’n poeni bod y grisiau’n symud, felly fe rhoddon nhw golofnau i’w sicrhau sy’n difetha harddwch y grisiau cantilifrog gwreiddiol i raddau.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales