Neidio at y cynnwys

S4C


Pensaernïaeth Fictorianaidd

Mae Llandudno yn dref Fictorianaidd yng ngwir ystyr y gair. Does ond rhaid i chi edrych ar y Prom a’r gwestai hardd i ddyddio oes aur y dre. Ond beth yn union yw pensaerniaeth Fictoraidd? Mae llawer yn defnyddio’r term i ddisgrifio arddull bensaerniol. Ond y gwir yw cyfnod mewn hanes ydyw ac nid arddull. Mae’n gyfnod sy'n dyddio o 1837 hyd at 1901 – cyfnod brenhiniaeth y Frenhines Fictoria wrth gwrs!

[ ] Yn ystod y cyfnod yma daeth diwydiant a llu o newidiadau mewn pensaerniaeth. Roedd yn gyfnod arbrofol ac yn gyfle i benseiri ac adeiladwyr fenthyg arddulliau o’r gorffennol. Lledaenwyd yr arddulliau newydd yma'n gyflym mewn llyfrau patrymau poblogaidd. Yn aml byddai adeiladwyr yn benthyg nodweddion o sawl arddull i greu adeiladau oedd yn unigryw i ddweud y lleiaf!

Fel adwaith i arddull glasurol y ganrif flaenorol, dychwelodd pensaerniaeth oes Fictoria i ffyrdd draddodiadol Brydeinig o adeiladu – arddull Duduraidd a Gothig-ffug oedd y rhai mwyaf poblogaidd.

Roedd y tai yn aml yn fawr ac yn anodd i fyw ynddynt. Byddai’r tai ar gychwyn yr oes Fictoraidd yn aml yn llawn addurn a manylder – gormodedd o fanylder!

[ ]

Erbyn diwedd yr oes Fictoria gwelwyd symudiad i’r pegwn arall, wrth i benseiri droi at arddulliau symlach gyda dylanwardau gwerinol. Mae Ardwy Orme yn esiampl o gynllun o ddiwedd yr Oes Fictoria. Sylwch ar batrwm gemetrig syml y gwydr lliw ar ben y grisiau - sy'n nodedig o ddiwedd y cyfnod

Daeth denyddiau newydd gyda'r Chwyldro Diwydianol fel gwydr a haearn. Sylwch ar y gwaith haearn hyfryd ar Pier Llandudno.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales