Neidio at y cynnwys

S4C


Ardwy Orme

[ VIDEO ]

Gallwch weld y tŷ yma o bron bobman yn y dref, ac mae ei hanes yn un ddiddorol iawn….cafodd e ei adeiladu gan stâd Mostyn.

Dros y pum can mlynedd diwethaf mae hanes y teulu Mostyn wedi’i gyd-blethu â datblygiad Llandudno. Cafodd y rhan fwyaf o’r dref fel rydym yn ei hadnabod heddiw ei chynllunio yn 1849 gan y teulu Mostyn. Rhoddodd y teulu y rhan fwyaf o’r plotiau ar les i’w datblygu ac roedd dylanwad y teulu yn fawr ar gynllun yr adeiladau a sut roedd y tir yn cael ei ddefnyddio.

Bu cenedlaethau o’r teulu Mostyn yn allweddol wrth warchod treftadaeth gyfoethog Llandudno, ac yn natblygiad economaidd yr ardal. Cafodd y tŷ yma ei adeiladu ar gyfer asiant Stâd Mostyn, a’i bensaer GA Humphreys - does dim rhyfedd felly ei fod wedi cael y man gorau yn y dref!

Mae'r olygfa o'r tŷ yn wych - fel eich bod yn Frenin ar y dref ac yn edrych dros eich teyrnas.

Er cafodd y tŷ ei adeiladu gan y dyn a oedd yn gyfrifol am edrychiad Llandudno, mae’r arddull ychydig yn wahanol, ac yn adlewyrchu’r ffasiynau oedd yn bodoli pan ei adeiladwyd yn 1895.

Gellir dadlau ei adeiladwyd yn arddull Dadeni’r Iseldiroedd…ond yn ystod diwedd y cyfnod Fictoraidd roedd pobl yn adeiladu mewn dwsinau o wahanol arddulliau – byddai yna dai neo-Romanésg, neo-gothig, a thai yn arddull y Dadeni neu yn arddull y Frenhines Anne yn yr un stryd fan. Amrywiaeth oedd y drefn!

Siâp y talcen o dywodfaen coch sy’n gwneud iddo edrych yn Iseldiraidd – eitha tebyg i’r adeiladau gewch chi yn Amsterdam.

Mae’n rhaid ei bod hi’n gymaint o hwyl i fod yn bensaer yn y cyfnod yma – archebu unrhyw beth allan 'r dwsinau o lyfrau patrymau mewn unrhyw arddull, ac yna aros iddo gyrraedd ar y trên!

Roedd peiriannau hyd yn oed yn gallu gwneud cerfiadau cain erbyn y cyfnod yma felly roedd pris deunyddiau addurnol yn disgyn.

Mae’r ogof groto yn yr ardd yn gwbl unigryw. Mae’r tu blaen wedi cael ei fodelu fel rhyw fath o dŷ haf, ond ar y tu mewn mae'n ogof wedi’i rhamanteiddio. Dyma ble darganfyddwyd rhai o weddillion dynol cynharaf y Deyrnas Unedig.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales