Adeiladwyd Neuadd Bodysgallen yn 1620 gan Robert Wynne, ac yn ystod y dair canrif nesaf cafodd ei ehangu mewn dull a oedd yn gyson ag arddull y tŷ gwreiddiol. Felly, er bod rhannau o'r adeliad yn edrych yn wreiddiol, mae’r rhan fwyaf o’r hyn sydd i'w weld yn perthyn i oes Fictoria.
Mae llawer wedi dadlau bod y tŵr tal yn perthyn i’r oesoedd canol ac mai tŵr gwylio ydoedd ar gyfer Castell Conwy, ond dyw hynny ddim yn gredadwy iawn. Er y gellir gweld castell Conwy o’r copa, mae Bodysgallen gyda’i dŵr uchel yn debyg i dai eraill gellaw sydd â thyrau tebyg o'r un cyfnod (e.e. Plas Mawr, Conwy, o 1580, a Phlas Berw, Sir Fôn, o 1615).
Mae’r plas yn cael ei redeg fel gwesty, ond mae wedi llwyddo i gadw’r teimlad o dŷ gwledig h.y does dim arwyddion ym mhobman a nid yw'n teimlo fel sefydliad o gwbl.
Trwy briodas yn 1776 daeth y tŷ i feddiant y teulu Mostyn ac wedi hynny fe ddaeth yn dŷ agweddi.
Rhoddodd y Fonesig Henrietta Augusta Mostyn (oedd yn gymwynasydd mawr i Landudno) y tŷ i’w mab Henry, ac ehangodd ochr ddeheuol y tŷ yn 1884, 1894 ac 1905. Sicrhaodd bod y gwaith cerrig newydd yn gweddu a bod dyddiad ym cael ei roi ar bob un o'r talcenni.
Roedd y Fonesig Augusta yn byw yn y Gloddaeth sydd ond ar draws y dyffryn – neuadd Duduraidd hardd arall sydd erbyn hyn yn rhan o Goleg Dewi Sant. Mae’r grisiau Fictoraidd yn gopi o rai gwreiddiol yn y Gloddaeth.
Mae Bodysgallen yn anghyffredin yn y ffaith na ddinistriwyd y tŷ yn ystod y cyfnod Fictorianaidd. Mae’r ychwanegiadau Fictoraidd os rhywbeth yn ychwanegu at at y bensaernïaeth wreiddiol gan fod unffurfiaeth yn perthyn i'r arddull, a llwyddwyd i ddyblu maint y lle.
Mam Robert Wynn oedd Margaret Mostyn, felly mae’r cysylltiad â’r teulu Mostyn yn y fan yma yn mynd yr holl ffordd yn ôl i’r cyfnod pan gafodd y tŷ ei adeiladu.
Yn adeilad rhestredig Gradd 1, mae Neuadd Bodysgallen yn dŷ bonedd uchelgeisiol o’r ail ganrif ar bymtheg sydd wedi cael ei gadw’n arbennig o dda, lle mae ychwanegiadau diweddarach wedi gwneud cyfanwaith pensaernïol cydlynol eithriadol o gyson.
Ond nid felly y buodd hi erioed. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Bodysgallen wedi mynd yn dipyn o gawdel pensaernïol, gyda simneiau o friciau a ffenestri codi Sioraidd. Y Fonhesig Augusta Mostyn fu’n gyfrifol am adfer Bodysgallen a’i ehangu ar droad y ganrif ar gyfer ei hail fab, Cyrnol Henry, ac iddi hi hefyd mae'r diolch am sicrhau bod yr adeilad wedi cadw'r elfennau gwreiddiol.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales