Rhagor o adeiladau o ddiddordeb yn Llandudno
Llyfrgell y Dref
Mae Llyfrgell y Dre ar Stryd Mostyn yn dangos arddangosfa barhaol am ddatblygiad tref Llandudno. Mae yno ganolfan astudio hanes lleol os am wybod mwy am y dref a’i phobl. Yno hefyd mae’r ganolfan dwristiaeth leol.
Y Swyddfa Bost ag Oriel Mostyn
Saif y Swyddfa Bost ynghyd ag Oriel Mostyn ar Stryd Vaughan. Adeiladwyd y Swyddfa Bost yn 1904, tair blynedd wedi adeiladu’r Oriel drws nesaf. Cafodd yr Oriel ei hadeiladu yn un-swydd i ddal casgliad helaeth y Foneddiges Augusta Mostyn. Erbyn 1914 roedd yr oriel yn wag ac fe gafodd ei hatafaelu i’w defnyddio ar gyfer y fyddin. Ers hynny fe’i defnyddiwyd fel storfa tan iddi ail agor yn1979 fel oriel gelf unwaith eto, gan gynnal arddangosfeydd cyhoeddus o bryd i’w gilydd. Dechreuwyd ail addasu’r oriel yn 2007 a phan fydd yr atgyweirio wedi ei gwblhau mi fydd na bump gofod arbennig i arddangos celf yn yr adeilad.
Y Traeth
Mae’r traeth yn ymestyn am ddwy filltir mewn bwa brydferth rhwng y ddau benrhyn calchfaen - y Gogarth a Rhiwledyn. Atynfa fwyaf y dre debyg iawn yw’r promenâd Fictoraidd sydd yn mynwesu’r traeth ar ei hyd fwy neu lai.
St George’s Hotel
Adeiladwyd y gwesty pedair seren enwog yma yn 1854. Hwn oedd y cyntaf i’w adeiladu ar y prom newydd. Mae nifer o enwogion y wlad, os nad y byd, wedi aros ynddi yn cynnwys dim llai na saith prif weinidog o Disraeli i’r Farwnes Thatcher.
Blwch post Penfold
Sylwch gyferbyn â’r Queen’s Hotel mae 'na flwch post hynod ddiddorol – blwch chwech-ochrog prin ydyw – ac mae’n parhau mewn defnydd hyd heddiw.
Y Pier
Mae Cadw yn ystyried mai pier Llandudno yw’r pier pleser Fictoraidd harddaf yng Nghymru. O’r pier gallwn ni weld y bae i gyd, y ffordd mae’r dref wedi cael ei hadeiladu, a’i hunffurfiaeth. Adeiladwyd y pier gan Walter Macfarlane o Glasgow ac fe’i agorwyd yn 1877. Roedd pafiliwn y pier yn adeilad crand ynddo’i hun ar un adeg, ond cafodd ei ddinistrio i raddau helaeth gan dân yn yn y 1990au. Roedd yna bwll nofio y tu mewn iddo– yn cydfynd â’r portread o Landudno fel lle i ddod iddi i ymdrochi.
Y Tabernacl
Fe adeiladwyd Y Tabernacl fel capel y Bedyddwyr ac fe’i defnyddiwyd tan 2006 gan Gapel Cymraeg Unedig Llandudno. Erbyn heddiw Canolfan Dreftadaeth y dref yw e. Mae’n esiampl dda iawn o gapel o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn y festri mae arddangosfa ‘Stori Llandudno’ ar hyn o bryd.
Gwesty'r Empire
Yn wreiddiol casgliad o siopau oedd Gwesty’r Empire a adeiladwyd yn 1854 ac ynddi roedd fferyllfa, siop lysiau a warws Eidalaidd. Roedd yn cael ei redeg gan Thomas Williams, gŵr ifanc o Ddinbych. Williams oedd yn gyfrifol am y ‘Visitor’s Hand-Book’, y canllaw cyntaf i ymwelwyr Llandudno.
Y Palladium
Adeiladwyd y Palladium i fod yn theatr gerdd ond mae wedi cael sawl swyddogaeth ers hynny, gan gynnwys sinema a neuadd bingo. Erbyn hyn mae wedi ei droi'n dafarn brysur. Gyferbyn â’r Palladium mae 'na flwch post sgwarog difyr – mae’n fawr iawn i ddal yr holl gerdiau post sy’n cael eu hysgrifennu yn yr haf.
Neuadd y Dref
Cynlluniwyd Neuadd y Dref Llandudno yn 1894 ac fe ennillodd y pensaer £50 am ei gynllun. £10,000 oedd yyllideb wreiddiol ac roedd y swm yma a’r tir yn rhodd gan yr Arglwydd Mostyn i ddathlu Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Victoria. Ni ddechreuwyd yr adeiladu tan 1899 ac fe’i gorffennwyd wedi nifer o achosion llys yn 1902. Roedd y pris terfynol wedi chwyddo i ddwywaith y gyllideb wreiddiol!
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales