Symudon ni fel teulu i Landrillo yn Rhos, nid nepell o Landudno, o Sir Fôn pan o'n i'n bump oed ac mae gen i atgofion lu o blentyndod hapus iawn ar lan y môr. Ar y prom ddysgais i i reidio beic ac yno fyddai’r ysgol yn cynnal ras hwyl a ninnau fel ffyliaid gyda’n ‘roller boots’ ar garlam hyd y prom. Ar y traeth y byddwn yn marchogaeth ceffyl hefyd.
Y môr yw’r apêl fwyaf – mae na rhywbeth sy’n llonyddu’r enaid am weld y gorwel, yn enwedig os 'dach chi wedi ei weld o’n ddyddiol ar hyd eich oes. Ar ôl treulio amser yn y ddinas, mae 'na hiraeth yn dod drosta i i weld rythm y don unwaith eto.
Y ffordd orau i werthfawrogi’r dre yn fy nhŷb i yw drwy ddringo Trwyn y Fuwch (neu’r ‘Little Orme’ fel ei gelwir yn lleol) neu’r Gogarth ochr draw er mwyn gweld y dre yn ei gogoniant.
Ac am dref! Ac am le braf i ddod am wyliau! Roedd yr hen ddywediad Saesneg “make hay while the sun shines” yn wir i mi bob haf gan mai gweld yr ymwelwyr fel cyfle i wneud pres fyddwn i.
Byddwn yn neud ‘shifft’ brecwast mewn un gwesty cyn mynd ymlaen i’r ‘Cambridge Restaurant’ ar Stryd Mostyn i weini bwyd amser cinio. Er bod dewis hirfaith ar y fwydlen mynd am y ‘sbesial’ fyddai’r cwsmeriaid bob tro. Am £4.50 byddai modd cael cinio cig oen, bîff, pei stêc neu bysgod. Gan fod diffyg arian mân yn y til byddwn yn derbyn papur pum punt ynghyd â’r llinell “keep the change, love” yn ddi-ffael. Bargen! Roedd fy mrawd yn golchi llestri yn y gegin ac yn herian fy mod i yn elwa gymaint oherwydd fy ngwên lydan! Ar ôl y shifft cinio ymlaen â fi i westy arall i neud y shifft swper mewn gwesty glan môr arall .
Gyda phres yn fy mhoced roedd gofyn mynd allan i fwynhau. Ac o fyw yn union rhwng Llandudno a Bae Colwyn rhaid oedd dewis yn reit ifanc os am fod yn ‘Du dno girl’ neu ‘Bay girl’. Dewis syml i mi oedd Llandudno dros Fae Colwyn. Felly bob nos Wener a nos Sadwrn mi fyddwn i a’m ffrindiau ysgol yn heidio i far gwin ‘Bartons’ yn meddwl ein bod yn smart.
Byddai’r noson yn diweddu'n ddi-ffael yn y ‘Bouli’ (y Broadway Boulevard). Y jôc ydy ein bod ni’n dal yn mynd yno pan 'dan ni’n dod at ein gilydd, ond y tro hyn yn dewis y noson i’r ‘over 25’s’ ar nos Fercher er mwyn osgoi’r plant yn eu harddegau!
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales