Llandudno yw hoff dref wyliau glan môr Cymru. Mae ymwelwyr yn tyrru yno yn eu miloedd oherwydd ei lleoliad hyfryd, y dewis o draethau a’r adloniant…. Neu fel mae arwyddair y dref yn ei ddweud ‘Hardd, Hafan, Hedd!’.
Ers i'r dref gael ei datblygu yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg galwyd Llandudno yn ‘Frenhines Trefi Glan Môr Cymru’ – ac mae yna elfen frenhinol i'r bensaernïaeth yma hefyd.
Tramffordd y Gogarth yw'r unig system dramiau cebl sy'n dal i weithredu ar ffyrdd cyhoeddus Prydain, ac yn un o dair sydd ar ôl yn y byd. Un o bwrpasau gwreiddiol y tram oedd cludo cyrff meirw i fynwent Sant Tudno mewn ‘modd parchus a gweddus’!
Pentref tawel yn llawn mwyngloddwyr, pysgotwyr a ffermwyr Cymraeg eu hiaith oedd Llandudno 200 mlynedd yn ôl. Roedd y rhan fwyaf o’r pentrefwyr yn cyfuno’r tair weithgaredd a gwasgarwyd eu cartrefi ar hyd llethrau isaf Y Gogarth ac roedd tua ugain o fythynnod y traeth.
Y teulu Mostyn, o Gloddaeth, oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r tir.
Yn 1848 cipiwyd y tir comin oddi wrth drigolion Llandudno a’i roi i dirfeddianwyr cyfoethog y Plwyf – y Mostyniaid. Aeth tua 832 o erwau i’r Mostyniaid, a dim ond 1.5 erw i'r bobl lleol. Taflwyd y trigolion allan o’r bythynnod ger y traeth ble saif y gwestai heddiw.
Mewn cyfarfod yn nhafarn The King’s Head penderfynodd yr asiant ddatblygu’r dref fel tref lan môr.
Mae calchfaen yn chwarae rhan allweddol yn amgylchedd a hanes unigryw Llandudno. Y ddau benrhyn calchfaen (Y Gogarth a Rhiwledyn) sy'n ffurfio bae hardd siâp pedol y dref, adeiladwyd adeiladau hynaf y dref o'r galchfaen, ac mae’r planhigion prin sy'n tyfu ar y Gogarth yn dibynnu ar y galchfaen.
Nid y galchfaen oedd yn gyfrifol am oes aur cyntaf y dref ond yn hytrach copr. Gellir dadlau mai yma oedd mwynglawdd copr llawn amser cyntaf Prydain yn ystod yr Oes Efydd (neu oes y copr efallai!).
Mae yna dystiolaeth archaeolegol ar y Gogarth o’r ymsefydlwyr cynharaf, er bod pobl oes Fictoria wedi distrywio nifer o safleoedd pwysig eraill wrth adeladu'r strydoedd newydd.
Mae Cadw yn ystyried pier Llandudno i fod y pier pleser Fictoraidd hardda' yng Nghymru. Mae golygfa wych i'w gael o'r pier, ac yn le i edmygu dyluniad ag unffurfiaeth y dref. Mae’n olygfa hardd – yn un o’r golygfeydd glan y môr gorau ym Mhrydain mae’n siŵr.
Nid y pier presennol yw pier cyntaf Llandudno, ond mae dyddio nôl i chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dinistriwyd rhannau o adeilad crand y Pier gan dân yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. Ar un adeg roedd yma bwll nofio mawreddog – yn cydfynd â’r thema o Landudno fel lle i ddod i ymdrochi.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales