Neidio at y cynnwys

S4C


Plas Coed

[ VIDEO ]

Mae’r bensaernïaeth yn syml ac yn gynnil, efallai am nad oes angen gormod o fanylder arnoch chi gyda golygfa fel hon.

Fe'i gynlluniwyd gan gwmni lleol – Tarmaster Jones o Ddeganwy, sydd wedi cynllunio nifer o gartrefi cyfoes yn yr ardal. O ystyried ein bod ni, mewn gwirionedd, yng nghanol stâd o dai mae’n glod i’r penseiri nad oes neb yn edrych i lawr ar yr adeilad yma.

Mae’r welydd allanol wedi’i gwyngalchu a'u gorchuddio gan choed cedrwydd. Grêt i weld deunydd traddodiadol fel gwyngalch yn cael ei ddefnyddio ar adeilad cyfoes – dyw e ddim ar gyfer hen adeiladau yn unig!

Mae’r tŷ wedi’i gynllunio gystal fel does dim rhaid i’r teulu ddefnyddio unrhyw wres o gwbl am 9 mis o’r flwyddyn! A hyd yn oed wedyn mae’r llosgwr coed yn ddigon. Mae yna hyd yn oed wresogyddion lan llofft sydd heb gael eu defnyddio eto!

Mae yna gyfnewidydd gwres anhygoel o effeithlon yn y tŷ. Mae'n sugno awyr ffres i mewn ond yn gyntaf ac yna'n defnyddio’r gwres o’r awyr sy’n gadael i wresogi ei hun.

Ffrâm bren sydd i’r tŷ ac mae wedi cael ei insiwleiddio i lefel uchel iawn gyda math o bapur sydd wedi’i ailgylchu.

Fe'i gynlluniwyd i fanteisio ar wres naturiol yr haul drwy ei adeiladu i mewn i ochr y bryn gyda waliau o wydr yn wynebu’r haul, a llawr o lechi du.

Mae bargod y to yn helpu i atal unrhyw ordwymo yn yr haf.

Mae’r bylbiau i gyd yn LEDs egni isel – ond yn anaml iawn bydd y goleadau yma'n cael eu defnyddio gan bod gymaint o olau naturiol yn dod i'r tŷ. Dyna beth yw dylunio gwyrdd go iawn – nid boeleri eco ffansi, ond dylunio systemau sydd ddim ond yn defnyddio ychydig o adnoddau yn y lle cyntaf.

Mae’r sinciau yn fach, mae sestonau’r toiledau yn fach. Mae bywyd eco yn golygu gwarchod egni nid cynhyrchu egni.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales