Chapel Row
Un o’r pethau mwyaf trist mae treftadaeth Merthyr wedi colli yw cartrefi’r gweithwyr diwydiannol o’r cyfnod cynnar.
Diolch i’r drefn fod Chapel Row wedi goroesi. Wedi’i adeiladu ar gyfer y gweithwyr mwyaf crefftus yng Ngweithfeydd Haearn Cyfarthfa, mae’r stryd wedi cael ei gadw am ei gysylltiadau hanesyddol yn hytrach na’i werth pensaernïol.
Ymhlith y tai mae cartref yr emynydd Joseph Parry sydd wedi ei gadw fel amgueddfa fechan. Mae’r tu mewn wedi ei ddodrefnu fel y byddai wedi edrych yn y mil wyth pedwar degau.
Ffwrneisi Chwyth Cyfarthfa
Mae’r rhan fwyaf o weithfeydd haearn Cyfarthfa wedi diflannu, ond roedd hi’n anodd iawn dinistrio’r ffwrneisi chwyth yma, ac fe fyddan nhw’n dal i sefyll mewn can mlynedd arall mwy na thebyg.
Maen nhw’n ddychrynllyd o fawr, ac yn rhoi syniad i chi o faint a nerth y diwydiant ym Merthyr.
Y gweithfeydd haearn yma oedd yn creu’r cledrau i’r rheilffyrdd a fu’n gyfrifol am agor yr Ymerodraeth Brydeinig. Heb yr haearn oedd yn cael ei gynhyrchu fan hyn, ac yn Nowlais, ni fyddai Prydain wedi gallu rheoli’r gwledydd yr oedd yn eu rheoli yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dowlais Stables
Wrth lwc, dyw pob adeilad pwysig yn nhreftadaeth Merthyr heb ddiflannu, ac mae ambell un wedi goroesi. Un ohonyn nhw yw addasiad hen floc stablau gwaith haearn Dowlais.
Cafodd ei adeiladu ar gyfer Syr Josiah John Guest yn 1820. Roedd y ‘stafelloedd mawr ar y llawr cyntaf yn cael eu defnyddio fel ysgol i fechgyn nes i ysgolion Dowlais gael eu hadeiladu yn 1854-5. Yna bu milwyr yn aros yma am sawl blwyddyn wedi terfysgoedd Merthyr yn 1831.
Caewyd y stablau yn y mil naw tri degau. Roedd y rhes yn adfeilion erbyn y saith degau a chafodd ei phrynu gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr Tudful yn 1981.
Gerllaw’r stablau mae peiriandy brics coch Gweithfeydd Dowlais– adeilad sydd wedi’i gynllunio i greu argraff.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales