Neidio at y cynnwys

S4C


Donna Edwards yn hel atgofion am Ferthyr Tudful

Cefais i fy magu ar stad cyngor Trefechan ym Merthyr Tudful yn un o dri o blant. Roedd fy mrawd hynaf, John, eisoes wedi priodi ac wedi symud i Loegr pan gefais i fy ngheni. Camgymeriad o’n i 20 mlynedd ar ôl i John a Kenneth gael eu geni! Cefais fagwraeth hapus, cariadus a naturiol iawn.

Roedd Kenneth yn gweithio mewn ffatri gyda dad ac roedd mam yn gweithio yn y siop leol. Tra roedd swyddi mam a dad yn talu’r biliau a’r rhent, roedd cyflog Ken yn talu am y luxuries fel gwersi ballet, canu a phiano.

Roedd arian yn brin pan ro’n i’n tyfu lan ym Merthyr. Roedd y tŷ wedi ei addurno gyda lliwiau a defnyddiau nodweddiadol o’r saithdegau. Roedd ein ‘shityn’ a’n eiderdowns ni yn brushed nylon, a gan mai’r 1970au oedd hyn, roedd yr ‘eiderdown’ ar bob gwely yn lliwgar iawn! Diolch i’r drefn fod mam wedi ennill £100 yn y Bingo wnaeth dalu am garpedi, llenni ac eiderdowns newydd.

[ ] Rwy’n cofio plentyndod rhydd iawn yn chwarae gyda’m ffrindiau o’r gymdogaeth. Roedden ni’n chwarae lawr ger yr afon, yn y maes chwarae, lan y mynydd ac yn gwneud dens. Roedden ni’n chwarae yn nhai ein gilydd ac yn ddigon direidus ar adegau - yn cymryd bara mas o bantri un ferch, caws mas o bantri rhywun arall a gwsberis, mwyar duon ac yn y blaen o erddi pobl.

Doedd pawb ddim gyda ffôn yn eu tai bryd hynny, ond roedd rhaid i ni gael un oherwydd salwch fy mam, ac roedd angen i ni allu ffonio am ambiwlans mewn argyfwng. Arferai ein cymdogion ni fenthyg y ffôn i wneud galwadau, ac wy’n cofio bocs pren wrth y ffôn lle fydden nhw’n rhoi darn dwy geiniog yn y bocs.

Mae gen i atgofion penodol am y bobl fyddai’n ymweld â’r tŷ. Maldwyn y dyn rhent o’r cyngor; benthyciwr arian o’r Provident; casglwr i’r Clwb Nadolig; y ‘rep’ o’r catalog; a Mathias gyda’i gart a’i geffyl a fyddai’n dod pob wythnos gyda ffrwythau a’r llysiau. Byddai dynion y stryd yn cymryd eu tro i gasglu caca’r ceffyl i’w rhoi ar eu rhosod.

Ymwelydd cyson i’r stryd gyda’r haf fyddai’r fan hufen ia. Byddai tiwn y fan yn dechrau, a byddai’n rhieni fi’n ochneidio a siglo pennau ar yr un pryd - ond ro’n i wastad yn cael fy ffordd.

Byddai mam yn dweud; “Oh! It’s getting too much now. You’re having money for ice cream EVERY day”.

Ond weithiau bydde Ken yn gweud: “Go on little one, I’ll buy you an ice cream”.

Y drefn wythnosol pan oeddwn i'n blentyn fyddai ymweliad a Baths Gwaunfarren pob dydd Sadwrn. Bydden ni’n mynd i’r sinema yn ABC Miners yn aml a byddai pawb yn esgus taw eu pen-blwydd nhw oedd e pob wythnos fel ei bo' nhw’n cael mynd ar y llwyfan. Druan a’r usher oedd yn gorfod bloeddio “Stuart Thomas, SIT DOWN! It was your birthday last week!”

Daeth tro ar ein byd pan es i i’r ysgol gyfun yng Nghefn Coed-y-Cymer. Gorfu i ni ddibynnu ar fudd-daliadau oherwydd salwch fy rhieni a’m mrawd. Rwy’n ddyledus iawn i’r gymuned agos o’m cwmpas oedd o help mawr i mi wedyn. Yn enwedig Mrs Nanwen Owen, athrawes y Clwb Ieuenctid; Hazel Morgan, athrawes yr Ysgol Sul; Marilyn Watkins, athrawes Gymraeg; Dr Elwyn Bowen, prifathro’r ysgol gynradd a Cliff Whittingham, prifathro’r ysgol uwchradd.

Trwy Mrs Nanwen Owen yn arbennig fe lwyddais i ddechrau fy ngyrfa actio pan yn bedair ar ddeg mlwydd oed gyda rhan yng nghyfres BBC Cymru - Off to Philadelphia in the Morning.

John Hefin Evans oedd pennaeth adran drama y BBC ar y pryd ac fe es i ymlaen i gael rhannau fel Mair Lloyd George yn The Life and Times of Lloyd George ac Arianwen, chwaer Aneurin Bevan yn y gyfres Nye. Roedd lot o ddramâu gwleidyddol cyfoes yn cael eu gwneud gan y BBC ar y pryd.

Bu farw mam tra o’n i yng nghanol fy Lefel A. Er gwaetha’r canlyniadau gwael, llwyddodd fy mhrifathro i berswadio Prifysgol Cymru Aberystwyth i roi lle i mi i astudio Drama a Chymraeg. Dyna pryd wnes adael cymuned Merthyr am y tro cyntaf.

Pob tro ro’n i’n dod nôl i Ferthyr mi o’n i’n treulio lot o amser ym Mhentrebach ‘da fy nghefndryd a’m modryb, Anti Lil, chwaer mam. Roedd 5 o blant ‘da Anti Lil ac roedd hi’n fy nhrin i fel chweched plentyn.

Braint o’r mwyaf oedd cael fy ngwahodd i fod yn Lywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Merthyr yn 1987. Cafodd yr Eisteddfod ei gynnal yng Ngerddi Castell Cyfarthfa. Roedd rhaid i mi draethu araith yn y Gymraeg yn yr Eisteddfod - sôn am nerfus!

Rwy' wedi cadw llun a wnaed o wydr i goffau agoriad yr Eisteddfod. Cafodd ei greu gan Factory Frames o Ferthyr. Mae’n dangos argraff o Joseph Parry, trên stêm, Castell Cyfarthfa, trên Aberhonddu a’r pyllau glo mewn paneli gwahanol. ‘Wy’n cadw fe ar y wal yn fy nghegin fel fy mod i’n ei weld e bob dydd i’n atgoffa fi o’r fagwraeth hyfryd ges i ym Merthyr Tudful.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales