Byddwn ni’n meddwl am Gymru fel gwlad wledig yn y bôn, ond eto, ein cyfraniad pwysicaf i hanes y byd oedd y ffaith mai ni oedd y genedl ddiwydiannol gyntaf. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd lle'r oedd mwy o bobl yn gweithio mewn diwydiant yn hytrach nag mewn amaethyddiaeth.
Merthyr oedd pair diwydiannol Cymru. Gyda phedair gwaith haearn, roedd hon yn dref oedd yn llawn o dân, mwg, slag a haearn. Bellach mae’r camlesi wedi cael eu llenwi, mae’r rheilffyrdd wedi eu codi ac mae’r gweithfeydd haearn wedi cau.
Does ‘na ddim llawer o hen hanes yn perthyn i’r dref yma – sy’n newid braf i ni. Roedd gan y Rhufeiniaid wersyll i fyny ym Mhenydarren ond mae popeth welwch chi ar ei draed yn dyddio o gyfnod y chwyldro diwydiannol ac wedi hynny.
Ac ers y dirywiad diwydiannol mae’r dref wedi gweld newidiadau rhyfeddol – camlesi wedi’u llenwi, ardaloedd byw ac ardaloedd siopa wedi’u hadeiladu ar safleoedd yr hen weithfeydd haearn. Mae cymaint o newid wedi digwydd nes ei bod hi’n dref anodd ei deall o ran ei chynllun.
Ar ben draw’r Stryd Fawr mae hen neuadd y dref, ac mae golwg druenus arni hi. Erbyn hyn dyw’r adeilad ddim yn neuadd y dref nac yn eiddo i’r cyngor; bellach mae hi’n wag ac yn dirywio. Cafodd ei hadeiladu yn 1896, a’i chynllunio gan Johnson, pensaer lleol oedd yn gweithio yma ym Merthyr ac yn y Fenni. Mae hwn yn un o’r ychydig adeiladu, sydd wedi goroesi, sy’n dangos balchder dinesig y dref ar un adeg.
Gyferbyn i’r neuadd mae stori drist arall - sinema’r Castell. Fe’i adeiladwyd yn 1929, ac mae’n hynod bwysig i hanes cymunedol y dref. Dyma hen safle Gwesty’r Castell, lle dechreuodd Gwrthryfel Merthyr yn 1831, a man geni dosbarth gweithiol Cymru yn ôl rhai. Roedd yr arwr dosbarth gweithiol Dic Penderyn yn rhan o’r gwrthryfel gwaedlyd yma.
Llyfrgell Carnegie, gyferbyn, yw’r unig adeilad yng nghanol y dref sy’n ymddangos fel petai’n ffynnu. Darn da o gynllunio, a dyma un o’r ychydig bethau ar y Stryd Fawr rydw i’n hoffi.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales