Yn y Dref Gymreig mae'r cyflwynydd Aled Samuel, yr hanesydd pensaernïol Dr Greg Stevenson a'u ffrind pedwar coes ffyddlon, Minti'r ci dalmataidd, yn bwrw golwg ar hanes pensaernïol nifer o drefi diddorol yng Nghymru.
Aled yw prif gyflwynydd y gyfres
Seren y gyfres, Minti y ci
Yr hanesydd pensaernïol
Ganwyd Minti y ci Dalmataidd smotgoch cyn troad y mileniwm. Mae'n gi anghyffredin a phrin, ac roedd yn gwbl wyn nes ei bod yn 12 wythnos oed! Oherwydd ei lliw unigryw fe'i dewisiwyd i chwarae rhan 'Oddball' y ci bach Dalmataidd ddifrycheulyd yn ffilm '102 Dalmatians' Walt Disney.
Bellach mae wedi serennu mewn pum cyfres o’r Tŷ Cymreig ac yn hen law ar grwydro hen dai gyda’i pherchennog, Greg.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales