Neidio at y cynnwys

S4C


Crwydro'r dref

Adeiladau o ddiddordeb yn Nhrefaldwyn

[ ]

2 Castle Terrace
Mae enw hyfryd i’r adeilad yma - House of Correction - neu’r carchar sirol.

Cafodd ei hadeiladu yng nghanol y ddeunawfed ganrif ac mae hen gofnodion yn dweud wrthon ni fod tri dyledwr, deg ffelon a thri gwallgofddyn yn y carchar yma. Roedd pob un ohonyn nhw’n cael gwerth chwe cheiniog o fara bob dydd.

[ ]

Bunners
Mae angen siop fel Bunners ym mhob tref – siop sy’n gwerthu popeth.

Agorodd Bunners yn 1891 er bod blaen y siop yn dyddio o 1910. Mae’n enghraifft wych o siop nwyddau haearn Fictoraidd sydd yn parhau i fod yn berthnasol i’r oes fodern ond yn cadw holl nodweddion a swyn yr oesoedd o’r blaen.

[ ]

Neuadd y Dref
Mae neuadd y dref yn ddarn hyfryd o bensaernïaeth Sioraidd. Yn wahanol i’w chymdogion sy’n cuddio adeiladau cynharach, mae hon yn cymryd lle neuadd farchnad hanner goediog agored sy’n debyg i’r un sydd wedi goroesi yn Llanidloes.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y llawr gwaelod wedi cau ac fe gafodd y gromen a’r cloc eu hychwanegu yn 1921.

[ ]

Arthur Street
Am stryd weddol fyr roedd yna nifer o dafarndai ar ei hyd ar un adeg. Roedd y bythynnod yma’n arfer bod yn un dafarn, y Plume of Feathers, a’r rhain yw’r bythynnod hynaf yn y dref.

Roedden nhw’n arfer bod yn dy neuadd i drefwr bychan. Roedd pâr o dalcenni deulawr ac asgell rhyngddyn nhw yn eu cysylltu. Yn ôl pob tebyg maen nhw’n perthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales