Neidio at y cynnwys

S4C


Dr Rhian Davies yn hel atgofion am Drefaldwyn

1. Rhowch ychydig o wybodaeth cefndir amdanoch chi.

Ces i fy ngeni yn y Drenewydd a dechrau fy ngyrfa fel canwr. Cefais dipyn o brofiad yn canu mewn operâu, cyngherddau, ac yn y cyfryngau.

Fel hanesydd cerddoriaeth rwy’ hefyd wedi gweithio fel ymchwilydd tu ôl i’r camera, ysgrifennydd sgriptiau ac fel cynhyrchydd rhaglenni dogfennol i’r BBC, HTV ac S4C ynghyd â chyfrannu i raglenni radio BBC 3 a Classic FM.

Mae’r rhan helaeth o’m gwaith wedi canolbwyntio ar gerddorion Cymraeg, Morfydd Owen yn eu plith, ac rwyf wedi cael y pleser o deithio’r byd yn chwilio am ffynonellau llawysgrifau.

Ers 2006 rwy’ wedi bod yn Gyfarwyddwr Celf ar Ŵyl Gregynog sydd yn cael ei chynnal yn yr ystafell gerdd hanesyddol Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd. Dathlwyd pen-blwydd yr Ŵyl yn 75 mlwydd oed llynedd.

2. Ers pryd ydych chi'n byw yn Nhrefaldwyn

Symudon ni i fyw yn Nhrefaldwyn cyn Pasg 2003 - felly chwe blynedd yn ôl bellach. [ ]

3. Beth ddenasoch chi i fyw yn y dre?

Roeddwn wedi bod yn dyheu am ddychwelyd i Drefaldwyn ers peth amser. Mae fy rhieni’n dal i fyw yn y Drenewydd, ac ar ôl blynyddoedd o deithio’r byd roeddwn yn gweld eisiau’r tymhorau, yn enwedig blodau’r gwanwyn a lliwiau’r hydref.

Fe wnes i sefydlu Gŵyl Peter Warlock ym mis Mai 2002. Mae gen i ddiddordeb yn ei waith ac fe ysgrifennodd ei ddarnau gorau yn y cartref teuluol yn Abermiwl. Er nad oes gen i gysylltiad teuluol â’r dref, rwy wastad wedi caru’r lle, ac roedd y syniad o edrych am dy yno wedi tyfu ers yr adeg hynny.

4. Beth sy’n arbennig am eich cartref?

Roedd y tŷ yn rhan o garchar cyntaf Sir Drefaldwyn rhwng 1735 a 1832.

Rydym ni wedi mwynhau ymchwilio i hanes y tŷ drwy wneud ymchwil yn Archifdy Powys, Archifdy’r Amwythig ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Oherwydd swyddogaeth wreiddiol y tŷ, mae ‘na lawer o ddogfennau’n bodoli sy’n rhoi gymaint o wybodaeth am y bobl fu’n byw yn yr adeilad, a beth oedd pwrpas pob ystafell. Bragdy’r carchar oedd yr ystafell flaen ac fe adeiladwyd estyniad uwchben y prif lofft er mwyn creu capel i’r carcharorion.

Pan gychwynnon ni edrych o ddifrif am dy yn Nhrefaldwyn ym mis Ionawr 2003, ro’n i wedi gwneud apwyntiadau i weld sawl lle cyn i ni dderbyn manylion am yr hen garchar cyn i ni adael Caerdydd am Drefaldwyn ar fore Sadwrn.

Roeddwn yn hoffi golwg y tŷ ac fe lwyddon ni i weld y tŷ ar yr un prynhawn. Fe syrthiais i’n syth amdani –y lleoliad, yr olygfa fendigedig a’r nodweddion gwreiddiol sy’n cynnwys derw lleol ar y grisiau a’r lloriau.

Heblaw am hynny roedd yna naws hyfryd yno. Roeddwn i wedi gweld nifer o dai i’w prynu a rhentu dros y blynyddoedd ond roedd rhywbeth arbennig am y tŷ yma. Mae ein hymwelwyr wastad yn dweud yr un fath hefyd.

5. Heblaw am eich cartref, oes 'na adeilad neu dy arall yn y dre sy’n apelio?

Mae yna gymaint o dai diddorol mewn ardal mor fach yn Nhrefaldwyn - y Castell, yr Eglwys a Neuadd y Dref ac wrth gwrs y tai Sioraidd. Mae’n edrych fel set ffilm. Mae sawl raglen deledu a ffilm wedi cael ei saethu ar leoliad yma gan gynnwys Nadolig Plentyn yng Nghymru gan Dylan Thomas. Mae ‘na lefydd yn yr ardal fel Hen Domen, Ffridd Faldwyn a Rhydchwima sy’n ein hatgoffa ein bod yn byw ar ffin hynafol a hanesyddol bwysig lle byddai mwy o Gymraeg wedi cael ei chlywed ar lafar yn y dyddiau a fu.

Mae’r adeilad lleol oedd yn fy niddori fwyaf wedi cael ei ddymchwel. Adeilad coed du a gwyn hardd, nodweddiadol o’r sir, o’r enw Lynmore. Cyn iddo fynd, fe fyddai’r adeilad wedi dominyddu’r olygfa o’n tŷ ni. Yn ddiweddar, rwy’ wedi dod ar draws llun o Lynmore sy’n edrych nôl am ein tŷ ni, ac rwy am wneud copi o’r llun.

6. Sut gymuned sydd yn y dref?

Mae yna gymuned gref yn y dref - mae 'na gymysgedd braf o deuluoedd lleol ynghyd a phobl sydd wedi penderfynu ymddeol yma wedi gyrfaoedd diddorol mewn sawl maes.

Mae gan bobl amser i sefyll a siarad. Mae boreau Sadwrn yn Neuadd y Dre yn frith o bobl sy’n prynu llysiau yn y farchnad ac mae pobl yn cefnogi’r boreau coffi wythnosol er budd elusennau lleol.

7. Oes ‘na draddodiadau cryf yn y dref?

Er ei bod hi’n dref fach mae ‘na lawer o gymdeithasau gwahanol - trefnu blodau, canu clychau, scrabble a gwehyddu!

Mae ‘na nifer o ffeiriau ar y stryd fawr, y sioe flynyddol ym mis Awst a seremoni tanio’r goleuadau Nadolig ym mis Tachwedd – mae’r rhain i gyd yn ddyddiadau pwysig yn y calendar lleol.

8. Sut ydych chi’n ymlacio yn Nhrefaldwyn?

Mae’r teras o flaen ein tŷ yn lle delfrydol i eistedd a diogi. Dyma un o’r prif resymau wnaethon ni brynu’r tŷ oherwydd roeddwn yn gallu gweld y potensial o’i ddefnyddio fel ystafell ychwanegol. Mae tro'r tymhorau, a’r tywydd, wastad yn rhoi gwedd newydd ar ein golygfa fendigedig dros y Stripertones, Corndon a’r

Long Mynd.

Mae gennym hefyd lu o adar bach sy’n ymweld â’r ardd - gan gynnwys cnocell y cnau a chnocell y coed. Mae’n syndod gymaint da chi’n ymlacio wrth ddarllen a gwylio’r adar yn mynd a dod.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales