Neidio at y cynnwys

S4C


Cyflwyniad i Drefaldwyn gan Greg Stevenson

[ VIDEO ]

Mae rhai trefi yn hyfryd, ac i mi, mae Trefaldwyn yn un ohonyn nhw.

Mae’r dref yn bodoli oherwydd y rhyd sy’n croesi’r afon Hafren gerllaw - un o’r prif lwybrau goresgyn rhwng Lloegr a Chymru.

Cafodd y dref ei hamddiffyn gan bobl Oes yr Haearn, y Rhufeiniaid a’r Normaniaid, ond y gaer a welir heddiw oedd y castell gafodd ei adeiladu yn 1223 gan Harri’r Trydydd. Fe’i adeiladwyd yn lle castell Normanaidd Roger de Montgomery oedd wedi enwi’r ardal ar ôl gwlad ei eni yn Normandi.

Beth sy’n hynod am y dref yw bod cynlyn y strydoedd heb newid dim ers yr oesoedd canol.

Fel bydd unrhyw un sydd wedi ymweld â’r dref yn gwybod, pensaernïaeth Sioraidd y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n rhoi’r pleser mwyaf i chi.

Mae'r dref wedi’i leoli llai na milltir o’r ffin â Lloegr, ond mae’n teimlo fel milltiroedd o bob man - mae Trefaldwyn yn le bach mor gysglyd. Un o’r rhesymau pam nad yw’r dref wedi tyfu, yw achos ei bod hi’n rhy anodd i gysylltu’r dref â’r rheilffordd, ac mae’r orsaf agosaf filltir a hanner i ffwrdd.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales