Tan y Castell yw un o adeiladau mwyaf dymunol y dref, lle mae’r teulu’n parhau’r hen draddodiad o fyw uwch ben y siop - sef cwmni pensaernïol.
Nid tŷ Sioraidd mo hwn – mae’n un o’r nifer o dai yn Nhrefaldwyn sydd wedi cael talcen newydd yn yr arddull Sioraidd.
Mae ‘na dri llawr i’r adeilad ac mae pob un ohonyn nhw’n dangos cyfnod gwahanol o ran cynllun. Mae talcen Sioraidd rhyfeddol i’r llawr gwaelod, ffenestri o ddiwedd cyfnod Fictoria ar y llawr cyntaf, ac fe gafodd y llawr uchaf ei ychwanegu tua 1920.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales