Cafodd Castle House ei gynllunio i fod y tŷ crandiaf yn y dref. Fe ellir dweud fod hynny’n wir o hyd ar ôl mwy na thri chan mlynedd.
Cafodd ei adeiladau gan Dug Beaufort, gan ddefnyddio llawer o gerrig y castell gerllaw, er mwyn dathlu ei statws fel Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a’r Gororau.
Fuodd y tŷ erioed yn gartref teuluol i’r Beauforts, dim ond tŷ tref, ac nid eu hunig dŷ tref chwaith. Mewn gwirionedd anaml iawn roedd y Dug yn ei ddefnyddio oherwydd fe adeiladodd dŷ rhyfeddol arall - Troy House - dim ond degawd yn ddiweddarach.
Y prif reswm iddo adeiladu’r tŷ oedd er mwyn ymffrostio. Cafodd ei adeiladu yn 1673 ar bwys y castell yn edrych dros y dref a’r bobl oedd dan lywyddiaeth y Dug.
Mae’n enghraifft dda o’r hyn y bydden ni’n ei alw yn gynllun adferiad. Mae’r ffaith ei fod e wedi’i restru fel Gradd I yn dweud wrthoch chi pa mor bwysig mae Cadw’n gweld yr adeilad.
Mae’r tŷ o faint da ond y gwaith plastr yn yr ystafell ar y llawr cyntaf yw’r nodwedd bwysicaf. Yma mae ystafell eang a oedd yn arfer bod yn pum ystafell. Mae modd gweld hyn o’r patrymau gwahanol a welir ar y nenfwd.
Mae rhai ohonyn nhw’n nenfydau cyffredin o’r ail ganrif ar bymtheg, ond yn stafell breifat y Dug mae’r to yn anhygoel. Mae’n rhaid mai hon yw un o’r nenfydau crandiaf yng Nghymru. Mae’r plastr yn hongian i lawr mewn rhubanau sydd wedi eu creu o ledr wedi eu plastro. Mae e’n drawiadol dros ben.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales