Stryd Monnow yw prif stryd y dref ers y canol oesoedd. Ers hynny mae’r tai arni i gyd wedi cael eu hailffryntio, neu eu hail-adeiladu, heblaw am Cornwall House. Erbyn heddiw mae’r tŷ yn amlwg gan mai dyma’r unig gartref preifat ar y Stryd Fawr.
Cafodd y tŷ ei ail-adeiladu gan Asiant y Dug Beaufort yn 1752. I weld y tŷ lawr at yr afon ac oddi wrth y stryd.
Bellach mae gan y tŷ dau wyneb. Mae’r ochr welwch chi o’r stryd yn ymddangos fel petai’n dyddio o tua 1800 pan gafodd y tŷ ei droi.
Ymddengys i’r tŷ gael ei addasu bob hanner canrif ac mae’n braf fod y tŷ yn edrych yn olygus o bob cyfeiriad.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales