Neidio at y cynnwys

S4C


Crwydro'r dref

Adeiladau o ddiddordeb yn Nhrefynwy

[ ]

Yr Hendre
Hwn oedd cartref Charles Stewart Rolls, cyd-sylfaenydd cwmni enwog Rolls-Royce. Tŷ Fictoraidd anferth sy’n ‘Rolls-Royce’ o bensaernïaeth!

[ ]

Priory
Dyma dystiolaeth orau i brofi pwysigrwydd Trefynwy yn y canol oesoedd. Yr hyn sydd ar ôl heddiw yw rhywfaint o waith carreg o’r canol oesoedd a’r pymthegfed ganrif a gafodd ei amsugno i waith ailadeiladu mawr yng nghyfnod Fictoria.

[ ]

Drybridge House
Adeiladwyd yr adeilad yn 1671 gan ŵr lleol o’r enw William Roberts. Yr hyn a welwn ni o’r tu allan yw tŷ cyfnod yr Adferiad, o'r ail ganrif ar bymtheg, sydd wedi cael ei adfer yn helaeth yn ystod oes Fictoria.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales