Neidio at y cynnwys

S4C


Yr actor Aneurin Hughes hel atgofion am Drefynwy

1.   O le ydych chi'n hannu yn wreiddiol? 

Cefais fy ngeni yn Aberystwyth a’m magu saith milltir tu allan mewn pentre bach gydag enw mawr sef Penbontrhydybeddau.

2.  Ers pryd ydych chi'n byw yn Nhrefynwy? 

Symudom i Drefynwy tua chwe mlynedd yn ol, ar ol bod yn byw mewn lle delfrydol iawn yn ardal Castell Newydd Emlyn.

3.  Beth ddenodd chi i ymsefydlu yn y dre? 

Y rheswm am symud oedd yr ysgolion gwych ac i mi gael bod yn agosach at y canolfannau gwaith. Fel actor ma’ gofyn bod yn barod i deithio ar fyr rybudd i’r dinasoedd mawr. [ ]

4.  Beth sydd yn arbennig am eich cartref a pham i chi ei phrynu? 

Ddim ty yn y dref oedd y bwriad gwreiddiol ond mae wedi profi i fod yn gyfleus iawn. Mae’r ty mewn dau rhan i ddweud y gwir - o ddau wahanol gyfnod. Mae ochr y stryd o tua canol yr ail ganrif ar bymtheg a’r ochr sy’n wynebu’r de a’r parc o’r 1830au.

5.  Heblaw am eich cartref eich hun oes na adeilad neu dy arall yn y dre sydd yn apelio atoch yn bensaerniol. 

Hen dref o’r canoloesoedd yw Trefynwy er bod iddi wreiddiau yn mynd nol at adeg y Rhufeiniaid. Mae’r stryd fawr yn gul iawn pob pen ond yn agored ac yn weddol lydan yn y canol. Y bwriad oedd cadw’r bwystfilod i mewn adeg marchnad.

Gyda rhywfaint o ddychymyg mae’n bosib edrych lawr y stryd a’i gweld hi fel oedd hi. Ma llawer o’r tai yn dal i fod gyda meini mawr dros y llefydd tan.

Ar ddiwedd y stryd mae’r afon Mynwy a throsti yr hen bont a’r ty llidiart arni yn dyddio o 1272. Mae’n debyg ei fod yn un o dair yn Ewrop. Mae na hefyd ddwy afon arall yma sef y Trothi ac wrth gwrs y Gwy.

Ar ben y dref mae Neuadd y Sir 1742 lle dedfrydwyd y Siartwyr; yr Eglwys a’r Castell lle gafodd Harri V ei eni. 1387. Wrth gwrs mae na linell yn nrama Shakespeare "I'll tell you, there are good men born at Monmouth..." King Henry V, Act IV Golygfa VII.

Fuodd Nelson yn ymweld a’r dref ac mae yna amgueddfa arbennig yma gyda llawer iawn o’i bethe personol ynddi.

Yng nghanol Sgwar Agincourt mae yna gerflyn o Charles Rolls (Rolls Royce). A fagwyd yn yr Hendre tu allan i’r dref.

6.  Apel y dref i mi…. 

I ddweud y gwir ma’r lle yn llawn hanes ac adeiladau difyr iawn, o adeg Geoffrey of Monmouth hyd at y presennol gyda i Stiwdio Recordio Rockfield lle mae rhan fwyaf o’r bandiau mawr wedi recordio eu cerddoriaeth roc a phop. Mae’r piano a ddefnyddiodd Freddie Mercury ar gyfer recordio Bohemian Rhapsody yn dal i fod ‘na. Ma ‘na sawl hen rocar wedi ymsefydlu ‘ma nawr ac felly mae ‘na dipyn o gerddoriaeth yn mynd mlaen yn y dre. Mae yn gymuned eitha braf yma. Dyw’r dre ddim yn rhy fawr nac yn rhy fach chwaith!

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales