Mae Trefynwy mor agos at y ffin gyda Lloegr dyw hi ddim wastad yn siŵr os yw hi yng Nghymru neu beidio. Eto i gyd, o ran ei phensaernïaeth, dyma i chi dref rydym ni’n falch o’i chael hi nôl ar ein hochr ni o’r ffin.
Y rheswm pam fy mod i mor hoff o Drefynwy yw oherwydd yr adeiladau sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif. Hon yw un o’r trefi Sioraidd sydd wedi cael ei chadw orau yng Nghymru. Mae yma nifer anarferol o filas a thai tref o’r cyfnod Sioraidd cynnar.
Mae Trefynwy wedi bod yn dref bwysig erioed oherwydd bod yr afon sy’n pasio drwy’r dref yn ffordd bwysig i fasnachu. Cafodd y ffordd o Drefynwy i Gas-gwent mo’i hadeiladu tan y mil wyth dau ddegau, felly'r afon oedd y brif ffordd o gludo nwyddau.
Fe ddaeth yr afon yn bwysig ar gyfer math arall o fasnach, sef twristiaeth, yn sgil poblogrwydd y ‘Wye Tour’ a ddatblygodd o ddifri yn negawd olaf y ddeunawfed ganrif.
Pont Mynwy yw’r adeilad eiconig yn Nhrefynwy ac mae e’n adeilad unigryw. Dyma’r unig bont gaerog ganoloesol ym Mhrydain lle mae’r tŵr wedi cael ei chodi ar y bont. Cafodd ei hadeiladu ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’n anodd credu fod traffig yn croesi drosti tan y flwyddyn 2004.
Mae’r bont yn amddiffyn y mynediad i Stryd Mynwy. Dyma stryd fawr y dref ers y bedwaredd ganrif ar ddeg ac mae’n rhedeg yn syth i fyny at y castell.
Ychydig iawn o bensaernïaeth frodorol sydd i’w gweld fan yma. Yr hyn welwch chi fwyaf yw pensaernïaeth drefol dan ddylanwad cynlluniau Sioraidd clasurol. Mae’r bensaernïaeth yn dweud wrthon ni mai’r ddeunawfed ganrif oedd y cyfnod llewyrchus fan yma, a dyna pryd roedd diwydiant lleol fel mwyndoddi a gweithio haearn a thunplat yn ffynnu.
Dyw'r dref ddim yn teimlo’n ddiwydiannol iawn heddiw. Yr hyn sydd ar ôl yw casgliad llonydd o gartrefi dosbarth canol gafodd eu hadeiladu ar gyfer y diwydianwyr a’r cyfreithwyr, ychydig o dai tref ysblennydd y boneddigion, ac ambell dafarn coets fawr bwysig o tua 1800.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales