Agorodd y Savoy yn 1927 fel y New Picture House. Adeilad cynharach wedi’i ailwampio oedd e, a hwnnw yn ei dro yn ailwampiad o adeilad cynharach fyth. Maen nhw’n dweud mai dyma safle theatr hynaf Cymru oherwydd mae yna theatr wedi bod ar y safle ers cyfnod Elisabeth y Cyntaf.
Mae beth sydd yno heddiw naill ai’n dyddio o 1927, neu o bosib, rhannau a gafodd ei hailwampio yn 1910 fel y Living Picture Palace and Rinkeries. Hwn oedd llawr rhôl-sglefrio gwesty’r White Swan.
Heddiw mae ymddiriedolaeth leol yn berchen ar yr adeilad ac mae’n cael ei rhedeg fel menter ddielw. Does neb wedi addurno’r lle ar gyfer twristiaid, mae’n sinema go iawn, ac mae’r ffaith ei bod hi wedi cael ei hadfer yn profi bod pobl Trefynwy yn angerddol am gadw eu treftadaeth.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales