Neidio at y cynnwys

S4C


Y Byncer

[ VIDEO ]

Stiwdio fach yw’r Byncer, fel mae’n cael ei alw, ac mae e’n ddarn anhygoel o bensaernïaeth gyfoes. Mae wedi’i ddylunio gan Peter Roberts, pensaer o Fryste sy’n gyfrifol am lawer o’r bensaernïaeth gorau ddiweddar yn y Plwyf.

Mae e’n lle bach iawn, ond eto’n glyfar iawn yn y ffordd mae’n defnyddio’r gofod. O’r tu fas y prif bethau sy’n hwyluso’r cynllun yw’r ffaith fod y ffenestri isel yn rhoi golau ond hefyd preifatrwydd. Ac mae’r to gwyrdd yn lleihau effaith yr adeilad.

Tu fewn mae’r gofod hyd yn oed yn fwy trawiadol gyda chegin a lolfa mewn ardal agored. Tu draw mae ‘na lofft ddwbl, a stafell wlyb braf, heb anghofio am ddau wely sydd wedi eu cadw ar gyfer gwestai dros dro mewn mainc bwrpasol. Mae’r cynllun yn wirioneddol gelfydd.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales