Neidio at y cynnwys

S4C


Yr Eglwys Gadeiriol

[ VIDEO ]

Ryn ni’n twyllo ychydig bach ar Y Dref Gymreig, achos yn dechnegol, mae un o’n trefi ni dan sylw yn ddinas. Ond mae pawb wedi gweld pentrefi mwy na Thŷ Ddewi, felly roedden ni’n meddwl ei bod hi’n ddigon teg ei chynnwys hi yn ein harolwg o drefi bychain Cymru.

Dwi’n meddwl bod pawb yn dwlu ar Dŷ Ddewi – a’i phensaernïaeth mae’n siŵr, yw un o’r rhesymau am hynny.

Fe ddaeth Ty Ddewi yn dre cyfoethog iawn yn yr oesoedd canol pan gyhoeddodd y Pâb Calixtus yr Ail fod dwy bererindod yma gystal ag un i Rufain.

Mae’r lleoliad anghysbell yn golygu mai hon yw’r ddinas gadeiriol leiaf ym Mhrydain, a dyna pam fod y dre heb ddatblygu tu hwnt i bwysigrwydd yr eglwys gadeiriol. Diolch byth am hynny – mae hi’n dre hyfryd oherwydd ei bod hi mor fach.

Wrth i ni edrych o’n hamgylch rydym ni’n sylwi nad oes dim byd arbennig am strydoedd Tŷ Ddewi. Ag ystyried pŵer y dre yma yn y canol oesoedd, dyw’r pensaerniaeth ddim yn adlewyrchu hynny. Beth sydd yma yw casgliad gweddol gyffredin o adeiladau gorllewin Cymru o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – ond mewn cyflwr perffaith.

Mae arian twristiaeth, a’r farchnad tai haf, yn golygu ei bod hi’n bwysig i gael y math iawn o ffenestri cyfnod, a thai wedi’u paentio mewn lliwiau pert.

Mae yna ddau dŷ tref hyfryd yn Court House (siop a chartref ar un adeg) a Menai, ond mae holl bensaernïaeth ffurfiol y dref yma yng nghyffiniau’r eglwys gadeiriol. Ond mae yna un adeilad amlwg – yr eglwys gadeiriol– sy’n dominyddu’r stori yn Nhŷ Ddewi.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales