Clos y Gadeirlan
Roedd y wal sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg yn amgylchynu dinas ganoloesol Tŷ Ddewi ar un adeg. Roedd hi’n amgylchynu un erw ar bymtheg o dir i’r gymuned oedd yn gweinyddu’r eglwys gadeiriol, ac mae’n dal i wneud hynny - mae’r adeiladau pwysicaf yn eiddo i’r eglwys gadeiriol o hyd.
Yr adeilad pwysicaf yw Palas yr Esgob. Mae llawer o bererinion enwog wedi dod yma ar hyd yr oesoedd, ac roedd angen adeilad trawiadol i’w croesawu.
Daeth Harri’r Ail yma ddwywaith, ac fe ddaeth Edward y Cyntaf i ymweld hefyd. Ond mewn rhagflaenydd i’r palas yma yr oedden nhw’n cael eu croesawu - sef castell cloddwaith bach yng Nghastell Penlan, milltir o’r dref.
Yr adeilad agosaf at Balas yr Esgob yw cartref yr Archddiacon. A thros y lôn, wrth i ni symud oddi yno, mae Tŷ’r Trysorydd ac yna’r Canondy Fictoraidd.
Cafodd Tŷ Canghellor o’r unfed ganrif ar bymtheg ei chwalu er mwyn adeiladu’r Canondy yn y 1850au. Mae’r adeilad newydd, yn briodol ddigon, yn Duduraidd o ran arddull.
Collwyd tŷ arall o’r unfed ganrif ar bymtheg, neuadd y tro yma, yn 1820-21 pan adeiladodd William Owen o Hwlffordd Brecon House ar gyfer Archddiacon Aberhonddu. Ond mae’n dŷ mor hyfryd fel y gallwn ni faddau iddyn nhw’r tro hwn.
Oriel y Parc
Dyma enghraifft o bensaernïaeth diweddar Tŷ Ddewi - canolfan ymwelwyr a gynlluniwyd gan Peter Roberts. Mae ganddi linellau crymon, to gwyrdd a dylunio pensaernïol unigryw.
Treginnis Isaf
Fferm fwyaf gorllewinol Cymru gyfan. Fferm nodweddiadol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond gyda chasgliad o dai allan sy’n ei gwneud hi’n eithriadol. Edrychwch ar y tai allan - colomendy crwn, ysgubor gyda tho talcennog, cartws, orendy, gardd gaerog, lladd-dy a beudy. Cafodd ei addasu gan y pensaer Peter Roberts fel un o safleodd ‘Farms for City Children’.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales