Dwi wedi byw yn Nhyddewi ers dwy flynedd ar hugain ac mae’n bendant yn gartref i mi.
Fe ddois i yma’n wreiddiol ar fusnes ond dwi erbyn hyn yn byw mewn lle perffaith. Fe fyddai’n anodd iawn i mi symud oddi yma rŵan a minnau gyda phlant. Lle arall fedrwn i fyw mewn cae agored rhwng y môr, y mynydd a’r ddinas? A phob un o fewn milltir i ffwrdd.
Tydi hi ddim yn hawdd gwneud bywoliaeth yma ac mae’n rhaid i bobl fod yn ddyfeisgar ac yn fodlon addasu. Dwi wedi rhedeg siop a thafarn, bwcio tripiau cychod a gweithio mewn ysbyty. Am am y ddeuddeg mlynedd diwethaf dwi wedi bod yn gweithio yn y Gadeirlan.
Roeddwn i’n lwcus tu hwnt i ymuno hefo staff y Gadeirlan ar ddechrau Apêl y Mileniwm. Dwi wedi bod yn rhan o’r gwaith adeiladu ers dechrau’r cynllun. Fy hoff rannau o’r Apêl yw’r gwaith adnewyddu ar Borth y Twr ac wrth gwrs prosiect y Clwysty. Roedd y Porth yn brydferth ar yr olwg gyntaf ond mewn gwirionedd roedd yn dipyn o adfail. Bellach mae’n adeilad hardd ac yn cael ei ddefnyddio fel oriel.
Mae’n hawdd meddwl am y Gadeirlan fel rhywle sydd wastad wedi aros yr un fath, ond mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae’r adeilad wedi newid ym mhob cenhedlaeth - yn tyfu a newid dros y cenhedloedd - a bu bron iddo droi’n adfail erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Ers hynny mae cyfnodau o adnewyddu wedi ein gadael gyda’ beth sydd yma heddiw. Y gwir bleser i mi dros y ddegawd ddiwethaf yw creu cyfraniad ein cenhedlaeth ni i’r adeilad hyfryd hwn (diolch i weledigaeth y Deon ac wedyn yr Esgob Wyn). Roedd gennym ni dîm gwych o bobl yn gweithredu ac yn gyrru’r cynllun yn ei flaen - a thîm amyneddgar o staff oedd ceisio cadw’r adeilad i weithio yn ystod y gwaith.
Mae adeiladau newydd y Clwysty yn hyfryd a dwi’n teimlo’n falch iawn ond campwaith y prosiect yw’r bwa yn y Porth gogleddol. Mae’n drawiadol, ac er ei fod yn newydd, mae’n debyg iawn o ran gwaith i weddill bwâu'r Gadeirlan.
Yr olygfa orau o’r dref yw pan fyddwch yn sefyll ar dop y sgwâr gan edrych dros yr adeiladau allan i’r ynysoedd. Mae’r llun yn newid drwy’r amser, yn aml gyda’r môr yn taro’r creigiau, a fedrwch chi ddim ond gwerthfawrogi'r tirlun.
Yn ystod Sulgwyn bob blwyddyn mae 'na ŵyl gerddoriaeth yn Nhyddewi. Mae’n amserlen wych o gerddoriaeth drwy’r dydd a nos. Mae pobl yn dod yno flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae’n gyfnod lle mae’r gorau o’r dref a’r Gadeirlan yn uno.
Yn ogystal â hyn, beth sy’n gwneud Tyddewi yn lle mor hyfryd i fyw ynddo yw’r bobl eu hunain. Mae 'na groestoriad eang o gymeriadau ac agweddau, ac mae’n un o’r llefydd lle mae cyfeillgarwch pawb yn ei wneud yn arbennig iawn.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales