Dyw’r adeilad yma ddim yn dibynnu ar addurniadau cywrain am ei harddwch – er bod yna ambell enghraifft o hynny – yn hytrach, mae yma deimlad bendigedig o gymesuredd, ffurfiau syml a cheinder. Un o’r adeiladau gorau yng Nghymru â dweud y gwir.
Corff y gadeirlan yw’r lle gorau i ddeall beth gafodd ei adeiladu yma yn 1182. Ond mae’r nenfwd – a dyna i chi nenfwd – yn Duduraidd.
Mae’r côr wrth galon yr eglwys gadeiriol. Dyma’r ‘cathedra’ neu orsedd Esgob Tŷ Ddewi. Dyma le rydym ni’n cael yr enw ‘Cathedral’, ac mae hon fwy na thebyg yn dyddio nôl i’r Esgob Gower yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Rydyn ni’n gwybod bod y misericordiau yn perthyn i’r unfed ganrif ar bymtheg oherwydd y symbolau fel y Rhosyn Tuduraidd a’r pomgranad, sef symbol Catherine o Aragon - wrth gwrs, roedd Catherine yn un o wragedd Harri’r Wythfed.
Prosiect diweddaraf yr Eglwys Gadeiriol yw’r ffreutur – addasiad cyfoes o gloestrau a neuadd yr eglwys gadeiriol i ddarparu lluniaeth i’r miloedd sy’n mynychu’r Gadeirlan yn flynyddol.
Mi fyddai’r cloestrau wedi bod o dan do yn wreiddiol felly dyma ymateb newydd i’r ffurf wreiddiol yr adeilad.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales