Neidio at y cynnwys

S4C


Penporthclais

[ VIDEO ]

Mae Penporthclais yn enghraifft nodweddiadol o adeiladau cyffredin yr ardal. Dechreuodd fel pâr o fythynnod, neu hyd yn oed dri. Mae’r bythynnod un llawr gyda thoeau wedi’u growtio yn nodweddiadol o’r penrhyn.

Mae Penporthclais yn enghraifft dda o ddefnyddio calch lleol. Byddai’r adeilad wedi cael ei adeiladu gyda morter calch, mae gwyngalch ar y waliau, ac mae’r to wedi cael ei galchu. Mae growt yn dal llechi’r to yn eu lle yng nghorwyntoedd y gaeaf, ac mae’r cynllun cyfan yn rhwydd iawn i’w gynnal a’i gadw, yn ogystal â bod yn hawdd i’w gadw’n gynnes.

Mae’r ystafelloedd bach, ffenestri bach, a llofftydd cysgu yn manteisio ar y ffaith bod gwres yn codi. Mae’r simnai fawr yn hollol nodweddiadol o’r ardal hon, roedd llefydd tân anferth fel hyn mewn bythynnod bach hyd yn oed.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales