Rhagor o adeiladau o ddiddordeb yn Ninbych
Eglwys Blwyf y Santes Fair
Mae’r eglwys a welir heddiw wedi newid sawl gwaith ers yr adeilad gyntaf ar y safle. Mae beddrod o ddiwedd y 13/14eg ganrif yn cynnig dyddiad o bryd ddefnyddiwyd yr adeilad at bwrpasau crefyddol am y tro cyntaf
Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1485 gan Margaret Beaufort, mam Harri Tudur i ddathlu buddugoliaeth ei mab ym Mrwydr Bosworth. Roedd hon yn un o bum eglwys roedd hi’n eu noddi sy'n dangos cyfoeth anhygoel y teulu.
Ailffurfiwyd yr adeilad yn sylweddol yn y cyfnod Fictoraidd.
Heol yr Iarll
Mae Stryd Iarll yn stryd ddinesig Edwardaidd gyda chasgliad hardd o adeiladau Edwardaidd neo-Baróc. O ran pensaernïaeth hon yw’r unig stryd unffurf yn y dref, a bron yr unig un sydd yn dal i sefyll yn ei gyfanrwydd!
Adeiladwyd neuadd y dref yn 1912 gan y pensaer lleol FA Roberts
Neuadd Ymgynnull
Dyma oedd canolbwynt y dref yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Adeiladwyd y Neuadd Ymgynnull mewn arddull calsurol yn 1849 ar safle'r Neuadd Leete hynafol (a adeiladwyd tua 1470).
Ychwanegwyd trydydd llawr yn 1879 ond cafwyd gwared o’r llawr uchaf yn 1985 a dychwelyd yr adeilad i’w fawredd gwreiddiol.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales