Does dim llawer o bensaernïaeth dda o'r 1930au a'r 1940 yng Nghymru, ond yn yr Wyddgrug mae na res o filas to fflat rhyfeddol gyda hanes rhyfeddol iawn hefyd.
Adeiladwyd y tai yn 1941 pan oedd fawr o ddim yn cael ei adeiladu ar wahân i dai parod (pre-fab) argyfwng. Cafwyd caniatad arbennig i adeiladu’r tai a hynny mewn arddull modernaidd arbennig. Roedd ffatri gan ICI yn y Wyddgrug a chafodd y tai eu hadeiladu yn unswydd ar gyfer eu gwyddonwyr oedd yn datblygu rhyfela atomig. Rhain oedd y gwyddonwyr cyntaf i hollti’r atom.
Oherwydd natur cyfrinachol a pheryglus gwaith y gwyddonwyr roedd y tai wedi’u dylunio i allu gwrthsefyll ymosodiad o’r awyr. Ychydig iawn o bren a brics a ddefnyddiwyd yn yr adeilad. Croen o frics Buckley tu ol i dŷ concrit sydd yma mewn gwirionedd.
Prin iawn o wydr sydd ar ochr flaen y ty. Mae’r gwydr i gyd yn y cefn gan mai’r arfer ar y pryd oedd bomio ar ganol ffyrdd.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales