Neidio at y cynnwys

S4C


Aled Lloyd Davies y cyn brifathro, arbenigwr ar gerdd dant a chymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol yn hel atgofion am yr Wyddgrug

Rwyf wedi byw yn yr Wyddgrug yn hirach nag un man arall yn fy mywyd ond brodor o Gorwen, Sir Feirionydd ydwyf. Symudais i’r Wyddgrug yn 1965 i dderbyn galwad i fod yn brifathro ar ysgol gymharol newydd Maes Garmon ac erbyn hyn rwy’n fy ystyried yn un o bobl yr Wyddgrug. Mae’n dref gynnes o safbwynt y gymdeithas ac yn dref hwylus o ran ei sefyllfa.

[ ]

Mae’r Wyddgrug yn dioddef yn ieithyddol o fod mor agos i’r ffin ond roeddwn wedi arfer a dylifiad o’r Dwyrain yng Nghorwen - efallai nid i’r un graddau ac yn yr Wyddgrug! Teimlais faich wrth dderbyn fy swydd bod angen hybu defnydd yr iaith yn yr ardal ddwyreiniol yma. Roedd dod i ysgol Gymraeg weddol newydd yn dipyn o her o gofio cyn lleied o adnoddau dysgu uniaith Gymraeg oedd bryd hynny.

Mae’n dda gen i ddweud erbyn heddiw bod cymaint, os nad mwy o Gymraeg ar hyd y dre nag a fu yn 1965 ac mae’n siŵr fod hyn yn ymwneud llawer â thwf addysg Gymraeg a hefyd dyfodiad yr Eisteddfod i’r Wyddgrug ddwywaith yn yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae 'na gymdeithas gref ymhlith y dysgwyr sydd yn dyst i’r ffaith fod yr Eisteddfod wedi gadael gwaddol ar eu hôl ym 1991 a 2007.

Mae hanes wedi bod yn ddiddordeb i mi erioed ac roeddwn yn teimlo fy mod yn symud i dre oedd yn llawn o hanes diddorol gydag olion castell Cymreig mhot a beili yn dyddio nôl i’r drydedd ganrif ar ddeg, eglwys Margaret Beaufort i’w mab Harri’r VII fel dathliad ar ôl ei fuddugoliaeth ym Mrwydr y Rhosynnau, hyd at ddylanwad y chwyldro diwydiannol ar yr ardal gyda thwf y gweithfeydd glo a phlwm yn yr ardal.

Dwi’n cadw ar gof ers dyddiau ysgol y pennill bach gen Blackwell o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd yn fy angori i yn yr ardal yma rhywsut.

Tra bo clogwyn yn Eryri
Tra bo coed ar ben y Beili
Tra bo dŵr yn afon Alyn
Cadwaf galon bur i rywun

Caf fy atgoffa yn feunyddiol am lenor arall, Daniel Owen, mab i’r dref, gan fod fy nghartref ar Ffordd Argoed. Pan oedd y llenor yn fabi blwydd oed bu cwymp erchyll ym Mhwll Glo'r Argoed ger yr Wyddgrug a achosodd i’w dad Robert (37) a’i ddau frawd James (21) a Robert (11) foddi gyda’r dŵr a lifodd o achos y cwymp.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales