Yn wreiddiol tŷ wedi ei adeiladau ar ffurf y lythyren ‘H’ oedd Gwysaney Hall – nes iddo ddechrau llithro i lawr y bryn! Penderfynwyd arbed y tŷ rhag hollti yn ddwy yn y cyfnod Fictoraidd ac ail strwythuro’r tŷ drwy golli un o'r esgyll. Dyna reswm pam bod y tŷ yn edrych braidd yn anhafal erbyn hyn.
Tŷ Jacobeaidd sy’n deillio o 1603 ydyw gyda drws bendigedig gyda'r dyddiad 1640. Wrth gamu i’r cyntedd gwelir portreadau o holl berchnogion y neuadd drwy ei oes.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales