Neidio at y cynnwys

S4C


Cyflwyniad i'r Wyddgrug gan Greg Stevenson

[ VIDEO ]

Mae yna dystiolaeth i awgrymu bod Yr Wyddgrug wedi bod yn gartref i bobl cyn yr unfed ganrif ar ddeg ond daeth yn gadarnle bwysig yn y cyfnod Normanaidd.

Gellir olrhain adeiladwaith y dref yn ôl i'r castell cloddwaith Normanaidd. Enwyd y castell ar ôl castell mwnt a beili gwreiddiol a arferai sefyll ar Fryn y Beili. Adeiladwyd y castell gan y teulu Montalt, a chredir bod enw Saesneg y dref yn tarddu o enw’r teulu yma.

Hyd at y 15fed ganrif roedd llawer o wrthdaro rhwng arglwyddi’r gororau. O ganlyniad i'r gwrthdaro roeddent yn byw mewn tai cadarn fel y gwelir gyda’r Tŵr yn Nercwys.

Roedd y dref a'r farchnad yn ffynnu yn y 15fed ganrif ac yn ystod y cyfnod yma disodlwyd y Fflint gan Y Wyddgrug fel prif dref y sir.

Daeth mwy o sefydlogrwydd yn ystod oes y Tuduriaid a phrofodd y cyfnod i fod yn un llewyrchus iawn.

Y cyfnod nesaf o ffyniant oedd y chwyldro diwydiannol. Agorwyd nifer o weithfeydd brics, glo a chrochendai yn y dref ac roedd plwm yn cael ei gynhyrchu yng nghyffiniau Helygain Mae'r Wyddgrug yn dref ddiwydiannol yng ngwir ystyr y gair, ac mae’r teimlad gweithiol yn parhai yno heddiw.

Mae’r Stryd Fawr yn dilyn patrwm yr oesoedd canol, yn arwain i lawr o’r castell, ond er hynny mae’r rhan fwyaf o’r dre yn deillio o’i oes aur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales