Neidio at y cynnwys

S4C


Y Tŵr, Nercwys

[ VIDEO ]
Mae’r tŵr yn ddiddorol am ei fod e’n un o’r tai castellog olaf yng Nghymru. Serch hynny mae’r tŷ yn perthyn i ddau gyfnod ac mae hyn i’w weld yn glir yn yr adeiladwaith….

Cafodd prif adran y Tŵr ei adeiladu tua 1450 ond mae’r rhicyniadau yn perthyn i oes Fictoria. Mae e wedi cael ei ramanteiddio o leiaf ddwywaith ers iddo gael ei adeiladu, ac o’r herwydd mae e’n ymddangos yn fwy fel adeilad o’r ddeunawfed ganrif / y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ffenestri hollt saethu, y gargoiliau, y rhicyniadau ac ati yn ddim byd ond ffantasi llwyr. Felly mae’r manylion pensaernïol yn perthyn i’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae’r waliau craidd i gyd yn hen iawn ac yn chwe throedfedd o drwch!

Mae na stori ddiddorol ynghlwm â’r Tŵr yma - cafodd Robert Bryne, llieiniwr a chyn faer dinas Caer, ei lofruddio fan yma yn ôl pob son gan y perchennog Rheinallt Gruffydd ap Bleddyn. Mae yna fachyn yn y brif neuadd lle maen nhw’n dweud iddo gael ei grogi….ond mwy na thebyg nad yw hynny’n wir.

Mae na nifer o fanylion o ddiddordeb yn perthyn i’r Tŵr. O ran ei gynllun yr oedd yn dŵr lled-gaerog gyda goruwchystafell a neuadd ar y dde, sydd wedi cael ei hail-adeiladu ers hynny.

Mae’r paneli yn y neuadd yn Jacobeaidd o ran arddull, ond yn Fictoraidd o ran dyddiad. Mae’r nenfwd barilaidd yn wreiddiol – byddai wedi bod yn anodd iawn i’r Fictoriaid ei newid. Mae ffenestri gwydr lliw yn arddangos arfbais y teulu ac mae’r arwyddair “Heb Dduw, heb ddim” wedi’i gerfio i’r lle tân.

I fyny’r grisiau byddai’r prif ystafelloedd byw wedi bod yn wreiddiol – erbyn hyn dwy ystafell wely eang iawn gyda nenfydau uchel iawn.

Mae’r ystafell dderbyn yn hollol wahanol – yn olau ac yn cael digon o awyr, ac yn Fictoraidd iawn o ran teimlad. Llawer haws i’w thwymo, a llawer mwy ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd!

© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales