Map o'r Daith
Camu nôl mewn hanes
Mae Ifan Jones Evans yn wynebu her hanesyddol newydd ar gyfer cyfres Y Goets Fawr wrth iddo geisio dilyn ôl-traed hen lôn y Post Gwyddelig mewn coets glasurol - cheffyl a throl.
Ar hyd y daith, bydd y tîm yn ymweld â Chroesoswallt, Llangollen, Cerrigydrudion, Pentrefoelas, Capel Curig a Bangor cyn cyrraedd pen y daith yng Nghaergybi.
Bydd digwyddiadau hanesyddol arbennig o gyfnod 1808, yng nghwmni'r cyflwynwyr Shân Cothi a Gari Wyn, yn diddanu'r gynulleidfa wrth i Ifan ymweld â chymunedau ar hyd y daith a dysgu mwy am y ffordd draddodiadol o fyw.
Gwylio ar Clic
Dilynwch ni arlein, ar daith ac yn fyw ar S4C o 26 Mehefin.
Cymryd rhan
Bydd nifer o ddigwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ar hyd y daith ac mae croeso i chi ddod i ymuno yn y dathliadau.
Ewch i safle Caban i weld manylion digwyddiadau Y Goets Fawr yn Llangollen, Pentrefoelas, Capel Curig, Bangor a Chaergybi.
Mae'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim. I fod yn rhan o'r daith ac am fwy o wybodaeth am y rhaglen ffoniwch 02920 916 667 (cost galwad genedlaethol arferol).