Mae Tudur Owen a Bethan Gwanas yn camu yn ôl i'w gwisgoedd Fictoraidd i ddarganfod rhagor am fywyd y Cymry yn y 1870au mewn cyfres newydd o Byw yn ôl y Llyfr.
Ar nos Fercher, 19 Ionawr, bydd y ddau yn dysgu sut i areithio gydag angerdd, yn profi diodydd di-alcohol dirwestwyr y dydd ac yn paratoi'r bwrdd bwyd ar gyfer ymwelydd pwysig; hyn i gyd wrth ddilyn cyngor llawlyfr anhepgorol y Parchedig Thomas Thomas, Llyfr Pawb ar Bob Peth. Ond i ddechrau, beth am baned?
"Sut fyd fysa byd heb baned?" gofynna Bethan Gwanas, cyn esbonio bod paned o de yn bwysig i Gymry Oes Fictoria hefyd.
"Dydy o ddim yn syndod bod y llyfr yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl ar y ffordd orau o wneud te," ychwanega. "Roedd te yng nghyfnod Fictoria yn arf cymdeithasol defnyddiol iawn a'r te parti, neu'r afternoon tea, yn tyfu i fod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn, yn enwedig ymysg y dosbarth canol."
Tyfodd y te parti prynhawn i fod yn rhywbeth Cymreig iawn, ac yn arferiad sy'n parhau hyd heddiw, er mai bore coffi yw'r enw arno bellach wrth gwrs. Bethan sy'n ymuno â'r hanesydd Nia Powell a chriw Merched y Wawr yn neuadd bentre' Abersoch am de a chacen, ac i edrych ar gasgliad diddorol o debotau hanesyddol.
Draw yng nghapel Bethesda, Cemaes, bydd Tudur yn cael tro ar fyd wrth ddysgu sut i draddodi pregeth i gynulleidfaoedd go wahanol i'r rhai mae wedi arfer â nhw mewn clybiau comedi. Bydd yn trafod y grefft o areithio gyda'r Parchedig Emlyn Richards, sy'n cymharu swydd Tudur yn y byd adloniant â gwaith y pregethwr yn y pulpud.
"Mater o berfformio ydy o, mater o ennill pobl ydy o yn y pen draw. Bydd un dyn, drwy'r bersonoliaeth yma, yn apelio at y gynulleidfa," meddai'r Parchedig Richards, fu'n weinidog yng nghapel Bethesda am flynyddoedd.
Gyda thwf Anghydffurfiaeth yn ystod y cyfnod, daeth pregethu i dyrfaoedd mawr yn rhywbeth cyffredin, ac mae cyfarwyddiadau'r Parchedig Thomas Thomas yn ei lyfr yn dangos sut mae modd gwneud hynny yn effeithiol, gan gofio nad oedd gan areithwyr y dydd feicroffonau i'w cynorthwyo.
Law yn llaw â thwf Anghydffurfiaeth, tyfodd y gefnogaeth hefyd i'r mudiadau Dirwest a Llwyr Ymwrthod. Yng nghwmni Dr John Davies, bydd Tudur yn dysgu mwy am aelodau'r mudiadau hyn - yn ogystal â'r rhai oedd yn eu hanwybyddu - a rhoi cynnig ar ambell rysáit o'r llyfr ar gyfer 'diodydd dirwestol'.
I gloi, bydd Bethan a Tudur yn dysgu mwy am reolau ymddygiad llym y Fictoriaid, trwy ddysgu sut i osod y bwrdd ac ymddwyn o'i gwmpas, yng nghwmni arbenigwr yn y maes.
Cau