Ar gychwyn eu taith hanesyddol o Oes Fictoria, bydd Tudur a Bethan yn dewis y dillad pwrpasol, yn dewis tŷ, ac yn dysgu mwy am gyd-destun cymdeithasol Llyfr Pawb ar Bob Peth.
Mae Tudur a Bethan yn dewis dillad o'r cyfnod i'w gwisgo. Maen nhw'n profi drewdod ac amgylchiadau byw slymiau dinesig Fictoriaidd. Wedyn mae'n bryd iddyn nhw ddewis eu 'preswylfod' (cartref) eu hunain. Byddan nhw'n mwynhau paned a chacen yn eu parlwr newydd, tra'n gosod Llyfr Pawb ar Bob Peth yn ei gyd-destun cymdeithasol. Cyn clwydo, mae Bethan yn paratoi 'diod iachusol', sy'n 'ddynwarediad o laeth mules', mae'n debyg.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales