Gwylio Byw yn ôl y Llyfr ar Clic
Bellach mae Tudur a Bethan wedi hen arfer â'u bywyd cyfforddus yn y dref, ond mae'r llyfr yn cynnig cyngor ar sut i ymdopi â bywyd ar y tyddyn yn ogystal a'r townhouse. Tra'n byw ar dyddyn Swtan ar arfordir Gogleddol Sir Fôn mae Tudur a Bethan yn 'sgota cimwch a chrancod, tyfu eu llysiau eu hunain, a chorddi menyn, heb anghofio dilyn cyngor y llyfr ar dasg holl bwysig i'r tyddynwr tra'n paratoi ar gyfer misoedd caled y gaeaf - sut i fesur tas wair.
Bydd cyfle hefyd i Tudur drio llymru, sef cymysgedd o laeth enwyn a blawd ceirch, un o brif elfennau deiet tyddynwyr y cyfnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales