Neidio at y cynnwys

S4C

Byw yn ôl y Llyfr

Rhaglen 12

Mae Tudur Owen a Bethan Gwanas yn dod i derfyn eu taith, ac yn asesu yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu.

Dyfodiad y camera oedd un o chwyldroadau mwyaf Oes Fictoria ac mae Tudur a Bethan yn trefnu bod portread yn cael ei dynnu gan ffotograffydd proffesiynol, sy'n parhau i ddefnyddio camera o'r cyfnod. A hwythau ar derfyn eu taith, siawns mai dyma'r amser delfrydol i asesu yr hyn mae nhw wedi ei ddysgu?

Er nad oedd cwisiau tafarn yn bodoli bryd hynny wrth gwrs, pa ffordd well i brofi faint yn union o'r "ffeithiau dyddorol na wyr llawer amdanynt" sydd wedi treiddio i mewn i'w hymennydd?!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales