Neidio at y cynnwys

S4C

Byw yn ôl y Llyfr

Rhaglen 2

Mae Tudur yn dysgu sut mae bwtsiera mochyn, wrth i Bethan arbrofi ar fara, cyn mwynhau pryd o ddanteithion Fictoriaidd gyda'r nos - pob un yn rysàit o'r llyfr, wrth gwrs.

Mae Tudur yn ymweld â chigydd yn Sir Fôn i ddysgu am y math o 'cuts' roedd y Fictoriaid yn hoff ohonyn nhw, fel pen dafad, pen oen wedi ei flingo, treip, pwrs a thafod buwch. Roedd y duedd o lygru bwyd yn rhemp yn y cyfnod, felly mae Bethan yn mynd ati i gynnal arbrawf ar fara yn y gegin. Draw yn y gweithdy, mae Tudur yn paratoi gwenwyn i ddifa llygod gyda blawd a ffosfforws. A bydd y cogydd Padrig Jones yn paratoi pryd o fwyd o glustiau a thraed moch, ysgyfaint mochyn a phen oen rhost - ac ambell i lysieuyn hefyd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales