Yn y rhaglen hon, cawn weld hanes twf y rhwydwaith reilffyrdd, a dulliau'r Fictoriaid o fesur mynyddoedd, heb anghofio 'peiriannau' ymdrochi a defnydd gwreiddiol i wy.
Mae Tudur a Bethan ar y tracs yn Llangollen wrth iddyn nhw edrych ar ddatblygiad y rhwydwaith reilffyrdd yng Nghymru. Esgorodd hyn ar gychwyn y diwydiant twristiaeth, a'r cynnydd mewn trefi glan-môr ar hyd arfordir y wlad. Ar ôl mynd ar y trên bach i gopa'r Wyddfa yn y gwynt a'r glaw, draw wedyn i Landudno i fwynhau awyr iachusol y môr. Maen nhw'n dilyn cyngor y llyfr ar y modd cywir i ymdrochi, wrth i Bethan ddefnyddio 'peiriant' ymdrochi, ac mae Tudur yn defnyddio wy.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales