Neidio at y cynnwys

S4C

Byw yn ôl y Llyfr

Rhaglen 4

Yn y rhaglen hon: diléit y Fictoriaid mewn byd natur wrth i Bethan a Tudur ymweld â'r Natural History Museum yn Llundain. Hefyd, hela pili pala a sut i greu "hin fesurydd cywir a syml" gydag "un eloden (leech) iach" a photel o ddŵr; ac ymweliad â sioe gŵn yn Llanelwedd.

Mae Tudur a Bethan yn Llundain, yn rhyfeddu ar y dinosoriaid yn y Natural History Museum, a dysgu am yr ysgytwad deallusol a achoswyd gan ddarganfyddiadau Charles Darwin. Gwelwn Tudur yn cerdded y dolydd, y caeau a'r coedwigoedd gyda'i rwyd pili-pala, yn edrych ar ddiddordeb cynyddol y Fictoriaid yn y byd o'u cwmpas. Bydd Tudur hefyd yn dilyn cyfarwyddiadau'r Llyfr ar sut i greu "hin fesurydd cywir a syml" gydag "un eloden (leech) iach" a photel o ddŵr. Yn Oes Fictoria gwelwyd cychwyn sioeau cŵn. Mae Bethan a Tudur yn ymweld â Sioe Gŵn y Welsh Kennel Club yn Llanelwedd i roi cynnig ar yr arddangos.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales