Neidio at y cynnwys

S4C

Byw yn ôl y Llyfr

Rhaglen 5

Llawer o chwysu wrth i Tudur ymweld â baddondy Twrcaidd, ac wrth i Bethan gamu ar gefn beic o'r cyfnod ar y prom yn Aberystwyth.

Datblygodd y baddondy Twrcaidd yn chwiw iechyd go boblogaidd yn Oes Fictoria. Tudur sy'n diosg ei ddillad ym maddondy Harrogate. Mae Bethan yn mynd am dro ar gefn beic o'r cyfnod i edrych ar apêl beicio i ferched yn ystod y 1880au a'r 1890au. Wrth reswm, mae hi'n gwisgo pâr o'r bloomers diweddaraf. Ar ôl y chwysu a'r gwaith caled, mae'r ddau yn mynd ymlaen wedyn am archwiliad meddygol Fictoriaidd gan Dr. Endaf ap Ieuan, fydd yn defnyddio ac yn trafod dulliau ac offer y cyfnod. I gloi, a dadwneud yr holl waith caled, pryd braster uchel. Oes gan rywun ffansi: Pwrs a Thafod Buwch, Treip wedi ei ffrio a Phastai Colomennod?

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales