I'r Fictoriaid dosbarth canol, daeth hamddena yn rhan bwysig iawn o'u bywydau. Tudur sy'n pysgota pluen ar yr afon Wysg, cyn mynd a'r brithyll 'ddaliodd' i westy hynafol y Bear yng Ngrughywel. Wrth i Tudur oeri yn nyfroedd y Wysg mae Bethan yn derbyn gwers goluro, a dysgu am y tuedd Fictoriaidd o wynnu'r ewinedd, dwylo a'r dannedd, trwy rwbio golosg arnyn' nhw!
I gloi, mae'r ddau yn rhoi cynnig ar ddawnsio'r quadrille a'r lancers, dwy ddawns boblogaidd o'r cyfnod. Sgwn i a fydd traed Bethan yn dioddef?!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales