Neidio at y cynnwys

S4C

Byw yn ôl y Llyfr

Rhaglen 8

Gwylio Byw yn ôl y Llyfr ar Clic

Tudur sy'n derbyn gwers ar sut i siarad yn gyhoeddus yn steil bregethwrol y cyfnod gan y Parchedig Emlyn Richards, a bydd yn blasu ryseitiau o'r llyfr sy'n dwyn y teitl "Diodydd Dirwestol" gan gynnwys y ddiod oxymoron-aidd, "Champagne Dirwestol".

Mae Bethan yn trafod "Y ffordd oreu i wneyd te", gan ddysgu mai "teapot arian yw'r gorau" a bydd Merched y Wawr Cangen Dwyfor yn blasu ei hymdrechion. I gloi, gwers i'r ddau ar reolau ymddygiad ger y bwrdd bwyd gydag arbenigwr etiquette; felly dim slyrpio, ac yn sicr, dim torri gwynt!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales