29-06-2010
BY
Alun Saunders
Y Cwn - The Dogs
Dw i wedi addo y byddwn ni adre yn cael ci bach cyn hir. Mae’r ferch ifancaf wedi cael ei swyno gan Nan – ci Ifan. Mae Nan yn gyfeillgar, yn bert ac yn barod i weithio. Mae’n amlwg hefyd fod Nan yn gwbl ymroddedig ac yn addoli ei pherchennog – sef Ifan.
I’ve promised that we’d have a puppy at home soon. My youngest daughter has been quite enchanted by Nan – Ifan’s dog. Nan is friendly, beautiful and ready to work. It’s also obvious that Nan is completely devoted to and worships her master – Ifan.