Celf Y Porthmon
Yn ein dathliad nos Sadwrn fe ddatguddwyd ein gwaith celf newydd sbon! Fel coginio cacen mae wedi bod yn broses gymhleth wrth greu ein mosaig o luniau: yn gyntaf rhaid oedd cael rysait – llun wreiddiol, eiconig i gynrychioli’r Porthmon gan ein Ffotograffydd Keith Morris. Cynhwysion nesaf, sef casglu lluniau gan y cyhoedd – y bobol, y tirwedd a stori’r Porthmon yn eu hardal nhw. Yna daeth y cymysgu, sef eu llwytho i gyd i’r feddalwedd arbennig ar y w er mwyn ail-greu’r llun gwreiddiol. Yn olaf oe