02-07-2010
GAN
Alun Saunders
Edrych Ymlaen
Tra bo Dafydd Isacc yn cyrraedd Aberhonddu fel arfer y noson cyn y digwyddiad fawr – y mart – mi fydd Ifan yn aros yn driw i hyn wrth gyrraedd y noson cyn y noson fawreddog o ddathlu. Wedi digwyddiadau llwyddiannus tu hwnt drwy’r wythnos mae rhaglen nos Sadwrn yn argoeli’n dda wrth i ni edrych ymlaen at berfformiadau cyffrous gan Rhydian Roberts, Catrin Finch a Chor y Porthmon, fydd yn perfformio can newydd sbon gan Caryl Parry Jones.