Mi fydd taith Ifan heddiw yn mynd ag e o Landre, drwy Gapel Dewi, Llanbadarn Fawr a Llanilar i fferm y Garth Fawr, gan gasglu cwmni Ffermwyr Ifanc ar ei ffordd. Beth am ddod draw i’w gefnogi neu hyd yn oed ymuno ag e am rhan o’i daith faith?
Beth Syn Digwydd
19:00 – FFERM Y GARTH FAWR – TREIALON CWN DEFAID
Gwybodaeth Rhanbarthol
Lledrod i rai, neu ‘Llanfihangel-Llethr-y-Troed’ i eraill, yw’r canolbwynt rhwng Aberystwyth a Thregaron. Roedd y ffair hydref flynyddol yn Lledrod yn un o’r rhai pwysicaf yng nghanolbarth Ceredigion, mor bell yn ôl â’r 1770au. Byddai’r ffermwyr yno’n gwerthu’u gwartheg, byddai yna’n cael eu gyrru i Dregaron i’r Porthmyn gael eu gyrru i farchnadoedd ymhellach i ffwrdd.